Y Bywyd Gwledig Traddodiadol.

Mae bythynnod Fferm Bontnewydd yn cynnig y ddihangfa ddelfrydol i gyplau a theuluoedd sy’n chwilio am heddwch a thawelwch y bywyd gwledig traddodiadol.

Cyfle i gefnu ar y byd yn Fferm Bontnewydd.

Croeso i Fythynnod Fferm Bontnewydd, dau fwthyn gwyliau hunan ddarpariaeth sydd wedi eu lleoli ar fferm yng nghefn gwlad Cymru.

Fferm brysur yw Bontnewydd gyda gwartheg godro, da tew a defaid. Fe’i lleolir yng nghanol dyffryn hardd Efyrnwy. Mae’r ddau eiddo, Bwthyn y Banwy a Bwthyn Efyrnwy wedi eu henwi ar ôl y ddwy afon sy’n rhedeg drwy’r fferm. Mae nhw yn cynnig gwyliau hunan ddarpariaeth delfrydol a hynny mewn ardal dawel. Lleolir y bythynnod ym Meifod, Powys.

Bydd cyfle i’r gwesteion sy’n aros yn y tai gwyliau hyn brofi bywyd fferm ar ei orau. Mae’r safle yn un heddychlon, gyda dim ond brefiadau y defaid a’r gwartheg i dorri ar y tawelwch. Paratowyd balconi ar gyfer yr ymwelwyr hynny sy’n dymuno bod yn llygad-dystion i’r godro dyddiol. Mae’r lle hefyd yn baradwys i bysgotwyr ac mae dyfroedd yr Efyrnwy a’r Banwy yn enwog am frithyll, yr annog a’r eog. Gwyddom hefyd fod dyfrgwn yn gwneud eu cartref yn yr afonydd ac efallai y bydd ambell i ymwelydd gyda llygaid craff yn ddigon lwcus i weld un.

Os nac ydych chi yn ddarpar ffermwr nac yn bysgotwr brwd mae’r bythynnod yn dal i gynnig gwyliau ymlaciol yng nghefn gwlad. O aros yn ein bythynnod hunan-ddarpar cyfforddus gall ein hymwelwyr fwynhau taith ddymunol ar hyd glan yr afon gyda bywyd gwyllt toreithiog o’u cwmpas. Bydd cyfle i weld glas-y-dorlan, elyrch a gwenoliaid. Mae’r bythynnod hefyd mewn lleoliad gwych os ydych am fynd i grwydro’r ardal. Nid yw Llyn Llanwddyn ymhell ac mae trefi marchnad y Trallwm a’r Drenewydd o fewn cyrraedd. Mae Meifod hefyd yn fan cychwyn da i’r sawl sydd am gerdded Llwybr Glyndŵr neu sydd a’u bryd ar grwydro’r ardal leol.

Mae John ac Eirian Williams wedi bod a gofal am y bythynnod hyn ers deng mlynedd ac mae nhw wrth eu boddau yn croesawu ymwelwyr i’w fferm a’u cynorthwyo i fwynhau eu gwyliau hunan-ddarpar. Bydd llawer o’r ymwelwyr yn dychwelyd drachefn a thrachefn ac yn gadael gydag atgofion melys am eu harosiad.

Mae John ac Eirian yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu.

English

Bythynnod fferm gwahanol

  • Arhoswch ar fferm odro weithredol gyda da tewion a defaid
  • Mae’r afonydd Efyrnwy a’r Banwy, sy’n enwog am eu pysgod yn rhedeg drwy’r tir.
  • Lle delfrydol i ymlacio yn y wlad
  • Dim ond ychydig funudau o lan yr afon lle bydd cyfle i fynd am dro a mwynhau’r bywyd gwyllt.

A llawer mwy

Visit Wales 4 Star
Powis Castle photo

Dewch i grwydro

Mae’r bythynnod ar Fferm Bontnewydd yn cynnig cyfle rhagorol i’r ymwelwyr hynny sydd am fwynhau gwyliau hunan-ddapar a threulio oriau yn crwydro yn yr awyr agored.

Darganfod Ffarm Bontnewydd

Bydd cyfle i ymwelwyr gael profiad llawn o fywyd fferm. Wedi eu lleoli ym Meifod, Powys mae’r bythynnod hyn gyda’u llety hunan-ddarpar yn cynnig y dewis gorau i unrhyw un sydd am aros mewn ardal dawel, ddelfrydol.